Gwasanaeth Ffotograffiaeth
Cyfrwng gweledol yw'r we ac mae llun cyfwerth â mil o eiriau.
Dywed hen ddihareb Tsieinïaidd bod modd adrodd stori gymhleth gydag un ddelwedd a bod un llun yn fwy dylanwadol na chant o eiriau. Mae gwirionedd syml yn hyn ac fe ddefnyddiwyd y syniad yn gyntaf mewn hysbysebion yn America yn 1921. Gyda dyfodiad y Rhyngrwyd mae'r syniad yn fwy perthnasol fyth.
Gallwn ddarparu delweddau wedi'u teilwra'n arbennig ar eich cyfer - boed tu mewn neu du allan. Mae gennym brofiad o waith catalog a gallwn ddod o hyd i fodelau, artistiaid coluro neu leoliadau stiwdio i chi. Gyda'n system goleuo stiwdio symudol gallwn greu delweddau o ansawdd uchel yn eich gweithle.
Neu, cewch fynediad i'n cronfa ddata o dros 11,000 o ddelweddau. O Fangor i Timbuktu, o'r Wyddfa i draethau Namibia, o drenau Ffestiniog i geir cebl yng Nghiwba, ac o Gastell Gaernarfon yn yr heulwen i Gastell Harlech yn yr eira - mae gennym y llun i chi.
Rydym yn defnyddio camerâu Canon gyda 16 miliwn pixel ar gyfer ein holl waith ar y we. Yn ogystal defnyddiwn gamerâu 35mm gorau Canon ynghyd â chamerâu ffilm cyfrwng Bronica.
Mae nifer o gryno ddisgiau o luniau ar werth fel a ganlyn: [cliciwch ar deitlau'r CD am ragolwg]
|