Electronic Spider

Gwasanaethau Rhyngrwyd

Cynllunio Gwefan
Mae ein ffordd o weithredu'n syml - i gychwyn rydym yn ceisio dod i ddeall busnes ein cwsmer ac yna'n penderfynu pa ran fydd y wefan yn chwarae wrth sicrhau bod y cwmni yn cyrraedd ei nod. I wneud hyn byddwn yn cwrdd â'r cwsmer ac yn defnyddio ein profiad eang i ddarparu cynllun sy'n cynnwys y cwsmer ym mhob cam allweddol. Fel hyn gallwn sicrhau ein bod yn gweithio tuag at gynllun fydd yn ateb holl ofynion y cwsmer.

Rydym yn arbenigo mewn darparu cynlluniau unigryw sy'n gyfoes a chlasurol ar gyfer ein cleientiaid. Cynlluniau sy'n rhwydd i'w defnyddio ac sy'n rhoi gwir fantais i'r cwsmer mewn busnes.

Ar gyfer safleoedd newydd sbon neu safleoedd wedi'u hail-gynllunio gallwn ddarparu cynlluniau o ansawdd uchel, sy'n gyfuniad o steil a defnyddioldeb ac sy'n rhwydd i'w defnyddio. Rydym yn defnyddio fformat syml ac eglur gyda delweddau o ansawdd uchel er mwyn darparu safle sy'n ddeniadol a phroffesiynol, yn llawn gwybodaeth a gyda'r gallu i lawrlwytho'n gyflym.

Gallwn ddarparu gwefannau cwbl ddwyieithog - credwn ei bod yn ymarfer busnes da i roi statws cydradd i'r Gymraeg a'r Saesneg wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru.

Rydym hefyd yn gallu gweithio gyda chronfeydd data cymhleth er mwyn:
Creu systemau bwcio ar lein ar gyfer gwestai a busnesau gwely a brecwast
Creu llyfrau ymwelwyr
Creu rhestrau postio
Hwyluso e-fasnach a siopa
Yn ogystal, gallwn ddefnyddio cronfeydd data mewn amryw o ffyrdd i ddatrys materion rhyngrwyd cymhleth.

Cynllunnir ac adeiladir ein gwefannau yn unol â'r safonau a chanllawiau diweddaraf. Rydym yn sicrhau bod ein cynlluniau i gyd yn gweithredu'n effeithiol ar y porwyr mwyaf blaenllaw.

Mae pob prosiect yn cael ei brisio'n unigol ac mae'r pris yn adlewyrchu'r oriau gwaith a'r lefel o gymhlethdod sydd ynghlwm â'r wefan. Cytunir ar y pris ar bapur cyn cychwyn ar y gwaith. Mae'r tabl ar y dde yn rhoi syniad i chi o'r prisiau:

Gwefan Cerdyn Busnes

(un tudalen)
Saesneg yn unig Dwyieithog
£99 £150
Gwefan Gyffredinol

(6 tudalen)
Saesneg yn unig Dwyieithog
£400 £650
Gwefan Gyffredinol
(....ynghyd ag un diwrnod o dynnu lluniau)
Saesneg yn unig Dwyieithog
£700 £950

Gwe-Letya
Mae gennym ein gweinyddwyr ein hunain mewn cyfleuster diogel yn nhalaith New Jersey, UDA. Mae ein darparwyr wedi bod mewn busnes ers 1996 ac mae ganddynt gyfleuster wedi'i adeiladu'n bwrpasol sydd dros 21,000 o droedfeddi sgwâr. Mae gan yr adeilad systemau rheoli tymheredd ac atal tân ynghyd â chysylltiadau gigabit cyflym gyda'r cwmnïau Telecomm blaenllaw. Mae'r cyfleuster yn darparu monitro a chymorth gweinyddwr bedair awr ar hugain.

Mae pecynnau lletya yn cynnwys: diweddaru dolenni fel bo'r angen, diweddaru syml chwarterol, cynnal a chadw, adroddiadau misol o ystadegau'r we. Ar gyfer safleoedd uniaith Saesneg mae'r pris lletya yn £10 y flwyddyn am safle un dudalen a £50 y flwyddyn am safle safonol. Ar gyfer safleoedd dwyieithog mae'r pris lletya yn £15 y flwyddyn am safle un dudalen a £75 y flwyddyn am safle safonol. Mae eich blwyddyn gyntaf o letya yn rhad ac am ddim.

English    Hafan    Pwy yw ESL?    Gwasanaethau'r we    Ffotograffiaeth    Cysylltwch    Dolenni    Map o'r safle Bookmark and Share
Mae holl gynnwys y wefan - geiriau, cynllun a delwedd - yn destun hawlfraint © 2007 - 2010 Electronic Spider Limited
Cofrestrwyd yn Lloegr a Chymru, Rhif Cwmni - 06426759
Valid XHTML 1.0 Transitional    FSB