Croeso i hafan Electronic Spider Ltd
Cwmni sy'n delio mewn ffotograffiaeth fasnachol a chynllunio gwefannau corfforaethol yw Electronic Spider Ltd. Mae'r cwmni wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, gyda chanolfan yn Blackpool hefyd. Ein bwriad yw gwasanaethu cwsmeriaid yn ardaloedd Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Swydd Gaerhirfryn yn bennaf. Serch hynny rydym yn fodlon ac yn abl i weithio gyda chleientiaid o bob cwr o'r wlad.
Cynllunio Clasurol a Chyfoes
Ein nod yw cynllunio gwefannau wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer eich gofynion a'ch amcanion busnes. Gwefannau modern a thrawiadol sy'n rhwydd i'w defnyddio.
Gwefannau Dwyieithog Gallwn gynnig gwefannau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Ffotograffiaeth wych
Rydym yn credu'n gryf yn y Rhyngrwyd fel cyfrwng gweledol a gallwn ddefnyddio'n sgiliau ffotograffiaeth i hyrwyddo'ch busnes drwy eich gwefan. Rydym hefyd yn gallu darganfod lluniau ar eich cyfer o'n cronfa ddata o dros 10,000 o luniau stoc. Yn ogystal mae modd i ni dynnu lluniau cynnyrch neu luniau ar gyfer catalogau. Os oes angen gallwn ddod o hyd i stiwdio, lleoliad, modelau, artistiaid colur a chynllunwyr.
Agwedd at fusnes
Mae gan y cwmni 25 mlynedd o brofiad busnes yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r UDA. Gyda'r profiad yma, ynghyd â'n sgiliau cynllunio, gallwn ddarparu gwefan proffidiol o ansawdd uchel ar eich cyfer.
Rydym yn berchen ar ddau weinyddwr mewn cyfleuster pwrpasol yn nhalaith New Jersey, UDA ac mae hyn yn ein galluogi i gynnig pecynnau lletya hynod o gystadleuol.
Mae Electronic Spider Ltd yn aelod o'r Ffederasiwn Busnesau Bychain ac o Glwb Busnes Gogledd Cymru.
|
Y Newyddion DiweddarafMae gennym ni amrywiaeth o galendrau 2009 ar werth, o bedwar ban byd, o Timbyctw i Cuba i ogledd Cymru gweler stores.lulu.com/Ontheroadpics Printiau Eiconig ar werth hefyd. |
| Rydym newydd ddychwelyd o'r Carnifal yn Fenis ac mae llyfr o luniau a dynnwyd yn y Carnifal ar werth yn awr. Mae'r argraffiad wedi'i gyfyngu i 100 o gopïau wedi'u rhifo a'u harwyddo. Yn y gyfrol, sydd â chlawr caled a siaced mewn lliw llawn, mae 67 o dudalennau gyda 100 o ddelweddau ar bapur ansawdd uchel. Mae'r gyfrol ar werth am £75. Cliciwch y ddolen yma i gael rhagolwg o'r llyfr: Carnifal Fenis. I archebu cysylltwch ag ian@electronicspider.com |
| Mae gennym amrediad o gryno ddisgiau gyda delweddau cydraniad uchel y gellir eu defnyddio ar gyfer deunydd marchnata. Mae ein prisiau'n llawer is na llyfrgelloedd lluniau stoc masnachol. Cliciwch yma i weld y cryno ddisgiau sydd ar gael. |
| Bellach mae'r rhan fwyaf o Arweinwyr y Farchnad yn defnyddio'r iaith Gymraeg wrth weithredu o ddydd i ddydd. Gallwn eich cynorthwyo'n rhad ac am ddim gyda'r broses o ymgeisio am nawdd ar gyfer darparu deunydd marchnata a gwefan dwyieithog. Os oes diddordeb gennych ewch i'r dudalen Gyswllt a chysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. |
Gall Llygad Busnes eich cynorthwyo'n rhad ac am ddim; ewch i www.businesseye.org.uk |