Electronic Spider

Pwy yw Electronic Spider Limited?

Cyd-gyfarwyddwyr Electronic Spider Limited yw:

Ian Nellist

Mae Ian yn ei bumdegau. Graddiodd mewn electroneg o Brifysgol Manceinion cyn cymhwyso fel cyfrifydd siartredig mewn practis o gyfrifwyr rhyngwladol ym 1980. Mae ganddo gefndir busnes eang iawn gan gynnwys cyfnod fel cyfarwyddwr ariannol i gwmni cyfyngedig cyhoeddus ym Manceinion, a chyfnod o ddeng mlynedd fel cyfarwyddwr ariannol i gwmni dosbarthu yng Ngogledd Cymru.

Mae Ian wedi hyrwyddo'r defnydd o gyfrifiaduron mewn busnes ers tro a daeth yn aelod o'r Sefydliad Gweithwyr TG yn 2005 ar ôl ennill diploma mewn cynllunio gwefannau. Ers yn blentyn bu'n ffotograffydd brwd ac mae wedi bod yn gwerthu ei luniau ers dros ddeuddeng mlynedd.

Ian Nellist

Janine Tinsley

Mae Janine yn ei hugeiniau. Sefydlodd ei busnes cynllunio gwefannau dros bum mlynedd yn ôl ac mae ganddi lawer o gwsmeriaid bodlon. Ymddiddora'n frwd mewn cynllunio gwefannau a defnyddio'r rhyngrwyd fel arf marchnata.

Dysgodd Janine ei hun i raglennu mewn HTML ac ieithoedd rhaglennu cysylltiedig. Ei nod yw cynhyrchu cynlluniau cyfoes a deniadol sy'n rhwydd i'w defnyddio. Mae'n ymwybodol bod rhaid i gynllun gwefan gael ei deilwra'n arbennig ar gyfer dyheadau a gofynion busnes y cleient. Mae hefyd yn deall swyddogaeth gwefan yng nghyswllt cynlluniau marchnata a masnachu cleientiaid.

Janine Tinsley
Gyda'i gilydd mae'r ddau yn cynrychioli Electronic Spider Limited.
English    Hafan    Pwy yw ESL?    Gwasanaethau'r we    Ffotograffiaeth    Cysylltwch    Dolenni    Map o'r safle Bookmark and Share
Mae holl gynnwys y wefan - geiriau, cynllun a delwedd - yn destun hawlfraint © 2007 - 2010 Electronic Spider Limited
Cofrestrwyd yn Lloegr a Chymru, Rhif Cwmni - 06426759
Valid XHTML 1.0 Transitional    FSB